Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Geraint Vaughn Jones ac ystyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor yn ystod Mehefin 2014, ar ôl casglu 2,754o lofnodion
Nes y bydd y Gweinidog Iechyd wedi cael cyfle i ystyried argymhellion yr Athro Marcus Longley yn ei adroddiad ar safon y gwasanaeth iechyd yng nghefn gwlad Cymru - adroddiad a gomisiynwyd gan y Gweindog ei hun yn Ionawr 2014 - yna rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddwyn perswâd ar Lywodraeth Lafur Cymru i ohirio trafod Cynllun Busnes Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n argymell israddio Ysbyty Coffa Ffestiniog i ddim byd mwy na ‘Canolfan Goffa’.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Dwyfor Meirionnydd
· Canolbarth a Gorllewin Cymru